gan Catrin Davies, tywysydd yr Artes Mundi and Catherine Stephens-Ward, Artes Mundi Live Guide
Ar fore ddydd Sadwrn, daeth criw o Ferthyr Tydfil i ymweld a'r arddangosfa. Cafodd saith disgybl y cyfle i fynychu gweithdy unigryw sef gweithdy'r 'sgwad 'sgwennu'. Cynnigwyd y gweithdy i'r disgyblion oherwydd eu bod wedi dangos dawn ysgrifennu arbennig. Roedd ganddynt raglen waith lawn oedd yn cynnwys y fraint o gydweithio gydag awdures yn ystod y prynhawn.Cychwynnom trwy drafod thema amlwg a welir yn yr Artes Mundi eleni, sef ymfudo, cyn dechrau ar ein taith o gwmpas yr arddangosfa.
Un darn gafodd ymateb gwych gan ddisgyblion y sgwad 'sgwennu oedd 'Yr Amgueddfa Rwsiaidd' gan Olga Chernysheva. Yn y darn, mae'r artist yn ffilmio ymwelwyr yn astudio darluniau celf mewn amgueddfa Rwsiaidd. Rydym yn gweld adlewyrchiad y bobl wrth iddynt astudio'r darluniau. Yn y fideo, mae'n ddiddorol sut mae adlewyrchiad o'r bobl heddiw yn dod yn rhan o'r hen luniau ar y wal. Efallai fod yr artist yn cymharu cymdeithas 'slawer dydd gyda chymdeithas heddiw? Beth sydd wedi newid a beth sydd yn debyg? Wrth esbonio'r syniad yma i'r disgyblion, dyma nhw'n dechrau cymharu'r darlun gwreiddiol efo'r amlinell a welir yn yr adlewyrchiad.
Roedd y disgyblon yn medru gweld tebygolrwydd rhwng y lliwiau gwreiddiol a'r lliwiau yn yr adlewyrchiad; Tebygolrwydd hefyd yn yr wynebau. Wrth iddynt edrych o'u cwmpas, dyma nhw'n dechrau cymharu'r lluniau yn y ffilm efo'r lluniau ar waliau'r oriel yma yn yr Amgeuddfa yng Nghaerdydd. Felly dyma fi'n holi'r disgyblion os yr oeddynt yn credu bod y lluniau yn y ffilm yn debyg i'r lluniau yma yng Nghaerdydd. Rydyn ni yn gwneud yn union yr un peth a'r unigolion yn ffilm Olga? Rydym ni hefyd yn gwylio; ond hefyd yn gwylio rhywun arall yn gwylio.
Ar ol cwblhau ein taith o'r Artes Mundi, dyma'r disgyblion yn gwneud darn o waith eu hun wedi ei selio ar artist o'r arddangosfa. Dewisodd sawl disgybl i selio eu gwaith ar Olga Chernysheva, ac eraill yn canolbwyntio ar agweddau eraill o'r sioe. Roedd pob ymateb o safon uchel, ac yn dangos eu bod wedi dehongli'r gwaith yn ddeallus iawn. Roedd yn amlwg fod ganddynt ddawn mewn celfyddyd gain yn ogystal a dawn ysgrifenedig.
Erbyn hanner awr wedi deuddeg roedd fy mol yn dweud ei bod yn amser cinio. Dyma'r disgyblion yn gadael yr arddangosfa, efo'u lluniau, eu bagiau a'u syniadau. Er taw dyma oedd diwedd y daith i mi a'r sgwad 'sgwennu, megis dechrau oedd y disgyblion. Bant a nhw, yn llawn syniadau, i ysgrifennu yn yr haul, gan ddatblygu rhai o'r themau a trafodwyd yn y bore. Tybed beth oedd y canlyniadau?...
By Catherine Stephens-Ward, Artes Mundi Live Guide
Last week the Young People’s Writing Squad visited Artes Mundi, and I had the pleasure of taking them around the exhibition and doing a workshop with them. The group of young writers who were aged between 12 and 15 years-old were accompanied by Branwen from Academi and a travel writer, who said as he introduced himself that he had visited some of the artist’s countries, namely Peru and Israel. First hand experience of a country always makes for some interesting dialogue, and this tour was no exception.
Clearly these youngsters are all very talented to have been chosen to represent their region of Wales in the writing squad, but what I was most looking forward to seeing was how this would translate into the drawing activities that I had planned for the workshop.
Fernando Bryce’s Die Welt was the starting point of the workshop, which seemed like an obvious choice given that it is based around literature. I gave the writers some options to choose from. They could either make a shape poem, like Fernando’s drawing of the ‘Eifel Tower’, write a review of Artes Mundi in the style of a newspaper article or produce a portrait of their favourite artist by copying.
There was one drawing in particular which caught my eye, and that was a portrait of Fernando in black felt tip pen, which emulated the artist’s black Indian ink versions. It looked so authentic it could have been part of Die Welt. Having made by own shape poem in preparation for the workshop, like the tower in Yael Bartana’s Wall and Tower I was thrilled to see the variety of shape poems that were made. There was the tree in Per Speculum, a lorry from the Silk Road, Ergin Cavusoglu’s piano and the bicycle from the Voyage of No Return.
I am sure that there will be many more artistic creations to come out of the writing squad’s Artes Mundi experience, whether this is in the written, drawn or painted form. I look forward to seeing more!
Comments