gan Catrin Davies, tywysydd Artes Mundi
Daeth 'Swn' i'r Amgueddfa Genedlaethol i gynnig blas o'r sin gerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Hwn oedd yr agoriad hwyr cyntaf yn y rhaglen gydweithredol rhwng yr Artes Mundi a 'Swn'. Nod yr agoriadau hwyr yma yw i bobl fwynhau'r perfformiadau cerddorol rhwng edrych ar y gwahanol gelf sydd i'w gynnig yn sioe yr Artes Mundi. Y syniad yw i gyfuno gwahanol ffurf o'r celfyddydau (mewn amgylchedd gwahanol i'r hyn a geir yma yn ystod y dydd). Mae hefyd yn rhoi'r cyfle i bobl ymweld a'r Artes Mundi, na fyddai'n cael y cyfle yn ystod y dydd.
Agorwyd y noson gan y delynes Georgia Ruth am 6 o'r gloch. Wedi iddi orffen plycio llinynnau'r delyn, roedd yna gyfle i edrych ar ychydig o waith yr artistiaid yn arddangosfa'r Artes Mundi. Bydd y tywysyddion yn cynnal taith trwy gydol yr agoriadau hwyr- (i gychwyn am 7 o'r gloch). Mae yna hefyd stondin gan Starbucks ar bwys y brif fynedfa sy'n cynnig esiamplau o'u bwyd.
Dechreuodd y perfformiad ola' gan John Smith am 8 o'r gloch. Unwaith eto, llwyddodd, trwy ei gerddoriaeth, i newid naws yr Amgueddfa. Wrth ystyried pa mor gwahanol oedd y ddau berfformaid i'w gilydd, mae'n amlwg bydd rhaglen 'Swn' yn cynnwys holl amrywiaeth o gerddoriaeth cyfoes- a hynny yn rhad ac am ddim!
Bydd y rhaglen yma yn rhedeg bob nos Iau trwy gweddill Ebrill. http://swnfest.co.uk/site/
Swn (sound) bought a taster of the Welsh music scene to the national museum last Thursday. This was the first in a series of late night openings, which is a collaborative project beteen Swn and the Artes Mundi. These late night openings offer the opportunity to enjoy an evening that offers a variety of creative ideas, both through art and music.
The harpist, Georgia Ruth opened the evening at 6pm, transforming the atmosphere of the main hall dramatically from it's bustling environment a few hours prior. During the late night openings, the live guides provide a tour, commencing at 7pm. (between the two music performances).
The final act of the evening, John Smith offered yet again an alternate experience to museum goers, If Thursday's late night openings are anything to go by, the programme will showcase a diverse range of fresh, creative ideas surrounding us today.
The late night opeings will run until the end of April, and entrance is free.
Comments